Credir i Gaer Drewyn, y bryngaer
uwchben glannau ogleddol yr Afon Dyfrdwy gyferbyn Pen-y-Pigyn,
gael ei adeiladu yn ystod Oes
yr Haearn ond bu rhywun yn byw ynddo yn ystod cyfnodau o heddwch
ac yn ystod rhyfeloedd am ganrifoedd wedyn.
Cafodd ei ddefnyddio gan y Cymry yn 1165 yn erbyn ymosodiad Harri
II ac yn ddigon posib i Owain Glyndwr ei hun ei ddefnyddio yn
ystod ei ymgyrch yn erbyn y Saeson.
|