hafan
rhyfeddodau naturiol yr
hen amser hanes a diwylliant
owain glyndwr beth
sydd yn y dref
ble i aros bwyd
a diod
gweithgareddau busnes

|
O fynyddoedd garw, rhostir wedi’u
gorchuddio â grug a phorfeydd gwelltog; mae gan Corwen a
Dyffryn Edeyrnion diroedd i fodloni pawb sy’n caru natur.
Mae Ffordd
Dyffryn Dyfrdwy yn cysylltu Corwen a Llangollen, taith gerdded
15 milltir fendigedig yn arddangos golygfeydd ysblennydd yr afon
Dyfrdwy. Yn ganolig i Gorwen ei hun mae tair
taith gerdded byr a phrydferth.
Mae taith gerdded Caer
Drewyn yn dilyn llwybr i ragfuriau ysblennydd cerrig bryngaer
Oes yr Haearn Caer Drewyn.
|
 |
Mae’r ail daith gerdded, troeon Pen-y-Pigyn,
yn dechrau o ganol y dref ac yn dringo heibio i Eglwys
Corwen drwy goedwig derw hardd i’r safbwynt ar Pen-y-Pigyn.
Heibio nentydd, rhaeadrau a Meini Hirion a osodwyd i goffáu
yr Eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghorwen ym 1919; ar frig Pen-y-Pigyn
fe welwch Sedd Glyndwr lle yn ôl y chwedl y bu i Owain
Glyndwr roi ei gyllell i lawr â gymaint o rym fel iddo
adael marc ar garreg yn wal ddeheuol yr Eglwys.
|
 |
| Heb fod ymhell o Ben-y-Pigyn ac ar hyd ffordd y goedwig,
gellir gweld llyn bychan; yn wir hwn oedd yn darparu dwr yfed y
dref! |
 |
Mae taith gerdded yr Afon Dyfrdwy yn mynd a’r
cerddwr ar hyd hen linell reilffordd, ac yn dilyn yr afon Dyfrdwy
i Bont Corwen, cyn troi yn ôl i’r hen reilffordd.
|
 |
|