Y Cymro olaf i gael y teitl Tywysog
Cymru. Owain Glyndwr a aeth ati i annog gwrthryfel yn erbyn y
Saeson ar droad y 15fed Ganrif gan godi ei faner yng Nglyndyfrdwy
(i’r dwyrain o Gorwen) ar Fedi 16eg 1400.
Mae cryn dipyn wedi ei ysgrifennu am natur y gwrthryfel a arweiniwyd
gan Glyndwr am tua 15 mlynedd ac yn anffodus nid yw’r wefan
hon yn ddigon mawr i roi sylw cyflawn haeddiannol i’w hanes.
Mae’n ddigon i ddweud, yn y flwyddyn 1399 fe welwyd diorseddu
Richard II a chipio’r goron gan Harri IV – Arglwydd
Aberhonddu, Mynwy, Cydweli ac Ogwr. Roedd gan nifer o uchelwyr
Cymru gysylltiadau agos â Richard II, a gwanhaodd eu trawsfeddiant
eu teyrngarwch i goron Lloegr.
|