hafan
rhyfeddodau naturiol
yr hen amser
hanes a diwylliant
owain glyndwr
beth sydd yn y dref
ble i aros
bwyd a diod
gweithgareddau
busnes

|
Mae tref farchnad Corwen wrth droed Mynyddoedd
y Berwyn ar ochr orllewinol Dyffryn Dyfrdwy. Awr yn unig o ganolbarth
Lloegr a dinasoedd Gogledd Orllewin Lloegr, mae Corwen yn leoliad
da ar gyfer twristiaeth; i fynd i weld Mynyddoedd Eryri a gweddill
Gogledd Cymru neu i aros yn y cyffiniau a mwynhau Corwen, Y
Bala, Rhuthun neu
Llangollen.
|
 |
Mae cyfanheddu wedi bod yma wrth yr Afon Dyfrdwy
ers yr oes hynafol ond mae hanes yr ardal (a chryn dipyn o falchder
lleol) wedi’u gysylltu â'r ffigwr chwyldroadol Owain
Glyndwr.
Cafodd y cerflun efydd dramatig, maint llawn, o Owain Glyndwr
ar ei gadfarch, sydd i’w weld ar sgwâr Corwen, ei
osod ym mis Medi 2007.
|
 |
Yn ystod cyfnodau diweddar mae ffordd Thomas Telford
– yr A5 - Llundain i Gaergybi wedi gwneud Corwen yn fan aros
pwysig i deithwyr ar eu ffordd yn ôl ac ymlaen i Loegr ac
Iwerddon; a arweiniodd i’r dref gael eu hadnabod fel “Croesffordd
Gogledd Cymru”. Gall y teithiwr blinedig dal fwynhau croeso
traddodiadol yn yr amrywiaeth o dafarndai,
gwestai a Gwely a Brecwast ardderchog sydd
yma.
|
 |
Gellir mwynhau harddwch naturiol yr ardal drwy amrywiaeth
o brofiadau yr ydych yn dymuno eu gwneud o deithiau cerdded syml
neu rai sy’n gofyn am ychydig bach mwy o ymdrech, cyfleon
dringo, llwybrau beicio mynydd a chyfle i wneud bob math o
weithgareddau chwaraeon o bysgota a saethu i geir rali.
Os ydych yn ymweld â'r ardal rydym yn gobeithio y byddwch
yn aros am ychydig gan fwynhau calon Gogledd Cymru.
|
 |
| |
|
| |
|
|