hafan
rhyfeddodau naturiol
yr hen amser
hanes a diwylliant
owain glyndwr
beth sydd yn y dref
ble i aros
bwyd a diod
gweithgareddau
busnes

|
Ynghyd â'r bryn gaer Caer Drewyn a chysylltiadau
Corwen ac Owain Glyndwr, mae gan Edeyrnion gysylltiadau gyda Derwyddon,
Cristnogaeth gynnar a thraddodiadau mawr yr Eisteddfodau.
Ym 1919, Corwen mewn gwirionedd, oedd y lleoliad cyntaf i’r
cyhoedd fod yn bresennol mewn Eisteddfod.
|
 |
Sefydlwyd Eglwys y dref, Sant Mael a
Sant Sulien, yn y 6ed ganrif gan y cenhadon sydd â'u henwau
ar yr Eglwys. Mae’r adeilad ei hun wedi’i ddyddio
o gyfnod Normanaidd ond mae mynwent yr Eglwys yn cynnwys croes
garreg Geltaidd yn ogystal â pethau hynod eraill gan gynnwys
beddi gyda cherrig penlinio.
|
 |
Mae Ystâd
Rhug wedi bod yn rhan o hanes yr ardal ers canrifoedd ac mae
Capel Rhug yn enghraifft prin o gapel preifat o’r ail ganrif
ar bymtheg, gyda’i ymddangosiad allanol yn rhoi ychydig
iawn o awgrym o’r addurniadau sydd y tu mewn sy’n
adlewyrchu barn crefyddol ei sylfaenydd, Cyrnol William Salusbury.
Mae’r adeilad bendigedig yma wedi cael effaith ar ymwelwyr
am ganrifoedd – y pensaer Syr Edwin Lutyens yn nodi fod
y capel wedi dylanwadu ar ei waith, gan gynnwys T Vicerou yn Delhi
Newydd, a adeiladwyd ym 1912-1930.
|
 |
Tuag at Cynwyd mae Eglwys gwyngalch yr Holl Seintiau
yn Llangar. Mae’r Eglwys yma yn hy^n hyd yn oed na Rhug,
yr adeilad canoloesol yn sefyll mewn man swynol milltir neu fwy
i’r de o Rhug yn edrych dros gyflifiad afonydd Dyfrdwy ac
Alwen.
Fel Rhug, mae Llangar yn mynd ag ymwelwyr yn ôl ar daith
arall. Mae’r Eglwys wedi cadw nifer o’i nodweddion
hen, gan gynnwys nifer o luniau o’r 15fed ganrif, ffigwr
marwolaeth o’r 17eg ganrif, hen drawstiau, seddi bocs, pulpud
a galeri clerwyr.
|
 |
|