hafan
rhyfeddodau naturiol yr
hen amser hanes a diwylliant
owain glyndwr beth
sydd yn y dref
ble i aros bwyd
a diod
gweithgareddau busnes

|
Mae Corwen a Dyffryn Edeyrnion yn cynnig
dewis helaeth o dafarndai, caffis a bwytai. Mae gan y dref pump
tafarn; Yr Delyn, Y Royal
Oak, Yr Eagles, Y Crown a'r Owain Glyndwr. |
 |
Gellir mwynhau ciniawa a the ym Mhlas Corwen,
Gwesty’r Owain Glyndwr a Chaffi Treferwyn tra bod prydiau
nos ar gael yn Owain Glyndwr.
I’r rhai hynny ohonoch sydd yn chwilio am rhywbeth sydyn
i’w fwyta mae siop pysgod a sglodion, Parry’s
Plaice, siop cebab a pizza, a bar coffi yn gwerthu paninis
a chrempogau ar Y Sgwâr yng Nghorwen.
|
 |
Os ydych yn pasio, beth am gael seibiant yn siop
fferm organig Rhug, ar
yr A5. Yma cewch nid yn unig gigydd yn gwerthu cig organig wedi’i
godi ar y fferm ond stondin gwerthu byrgyrs yn gwerthu byrbrydau
poeth blasus. Hefyd ceir siop yn gwerthu ystod eang o gynhyrchion
eraill i chi fynd adref gyda chi neu eu mwynhau yn ystod eich
arhosiad yma.
|
 |
|
|
|