hafan
rhyfeddodau naturiol yr
hen amser hanes a diwylliant
owain glyndwr beth
sydd yn y dref
ble i aros bwyd
a diod
gweithgareddau busnes

|
Mae gennym ddau gigydd, pobydd a gwneuthurwr
canwyllbrenni, wel, gweithdy cannwyll, ym mhlas Corwen. Mewn gwirionedd,
mae gan y dref bob siop sydd ei angen ar deithiwr a thwristiaid;
siop drwyddedig, fferyllfa, deli, siop lysiau, siop flodau, archfarchnad
fach a siop ar agor gyda’r hwyr, heb sôn am HSBC a
changen Nat West, a Swyddfa’r Post sy’n darparu gwasanaeth
lawn.
|
 |
Mewn gwirionedd, gyda’i dwy siop trin gwallt,
syrjeri milfeddygon
a chyflenwr anifeiliaid anwes, siop
esgidiau, siopau dillad a hyd yn oed siop
dillad ffansi, mae Corwen yn ganolfan ddilys ar gyfer yr holl
gymunedau anghysbell sydd o gwmpas y dref – o Gynwyd a Llandrillo
yn y Gorllewin, Gwyddelwern a Bryn Eglwys i’r Gogledd a
Charrog a Glyndyfrdwy i’r Dwyrain.
|
 |
Wedi ei leoli yn agos i ganol y dref, mae Parc Coffa'r
Rhyfel yn cynnig amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau hamdden,
a dyma gartref y clybiau pêl-droed,
criced, rygbi, bowls a thennis lleol.
|  |
| Mae Canolfan Iechyd Corwen yn gofalu am anghenion
meddygol yr holl ardal ac mae’r Ganolfan
Hamdden yn darparu cyfoeth o gyfleusterau i gadw’n heini
ac ymarfer. |
 |
|